Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

26 Medi 2022

SL(6)236 Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 gan ddileu’r cyfeiriadau at y gofyniad ar gyfer yswiriant o dan gynllun a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arolygwyr cymeradwy.

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol ar adran 48 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Mae’r adran honno yn gwneud diddymiadau i Ddeddf Adeiladu 1984 mewn perthynas â gofynion yswiriant arolygwyr cymeradwy.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022

Fe’u gwnaed ar: 05 Gorffennaf 2022

Fe’u gosodwyd ar: 07 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym ar: 28 Gorffennaf 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

26 Medi 2022

SL(6)239 Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig, a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, i'r diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001.

Mae’r Rheoliadau yn rhan o becyn o ddiwygiadau i ddeddfwriaeth a fydd yn sail i bob cyd-bwyllgor corfforedig ac yn sefydlu’r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer gweinyddu a llywodraethu cyd-bwyllgorau corfforedig yn effeithiol.

Y bwriad cyffredinol yw y bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu trin fel rhan o'r 'teulu llywodraeth leol' ac y byddant yn ddarostyngedig i'r un pwerau a dyletswyddau neu bwerau tebyg i raddau helaeth ag awdurdodau lleol yn y ffordd y maent yn gweithredu ac yn cael eu llywodraethu.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Llywodraeth Leol 2000

Fe’u gwnaed ar: 13 Gorffennaf 2022

Fe’u gosodwyd ar: 15 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym ar: 05 Gorffennaf 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

26 Medi 2022

SL(6)240 Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol fel y’i nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 er mwyn ychwanegu cydbwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y rhestr o awdurdodau perthnasol.

Effaith y diwygiad fyddai gwneud y Cod Ymddygiad Enghreifftiol gorfodol yn gymwys i aelodau cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yn llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Llywodraeth Leol 2000

Fe’i wnaed ar: 13 Gorffennaf 2022

Fe’i osodwyd ar: 15 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym ar: 05 Awst 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

26 Medi 2022

SL(6)241 Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (“y Gorchymyn”) er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y rhestr o awdurdodau perthnasol, gan wneud yr egwyddorion yn yr Atodlen i’r Gorchymyn yn gymwys i aelodau cyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn yn nodi’r egwyddorion sy’n llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Llywodraeth Leol 2000

Fe’u gwnaed ar: 13 Gorffennaf 2022

Fe’u gosodwyd ar: 15 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym ar: 05 Awst 2022